Cynnal enw da, gwarchod safonau, mynd i’r afael â phryderon

Gwneud cwyn

1 – Sut mae mynd ati i wneud cwyn?

Dylech anfon unrhyw gwynion at Gomisiynydd Safonau y Senedd yn y cyfeiriad isod:

Y Comisiynydd Safonau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

e-bost: comisiynydd.safonau@senedd.cymru

Rhif ffôn uniongyrchol: 0300 200 6542

Bydd ymholiadau drwy e-bost neu dros y ffôn yn cael eu hateb neu eu cydnabod o fewn 24 awr iddynt ddod i law.

Gweler ein Hysbysiad preifatrwydd am wybodaeth ar yr hyn yr ydym yn ei wneud â’ch cwyn.

2 – Pryd y mae cwyn yn dderbyniadwy?

Yn y Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd, nodir y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw cwyn yn dderbyniol. Rhaid i gŵyn fodloni chwe maen prawf cyn iddi fod yn dderbyniadwy.

Mae cwyn yn dderbyniadwy o dan y weithdrefn hon:

(a) os caiff ei chyflwyno’n ysgrifenedig;
(b) os yw’n nodi enw’r achwynydd yn glir;
(c) os yw’n nodi cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost yr achwynydd, ac eithrio pan fo’r achwynydd yn Aelod cyfredol;
(d) os yw’n ymwneud ag ymddygiad honedig Aelod a enwir;
(e) os yw’n nodi gweithredoedd neu anweithredoedd yr Aelod y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef yr honnir ei fod wedi torri amodau un o ddarpariaethau’r Cod neu ddarpariaeth berthnasol arall;
(f) mewn perthynas â phob gweithred neu anweithred y gwneir cwyn amdani, os caiff ei hategu gan ddigon o dystiolaeth i fodloni’r Comisiynydd (i) y gallai’r ymddygiad y gwneir cwyn amdano fod wedi digwydd a (ii) phe bai hynny’n cael ei brofi, y gallai fod yn achos o dorri amodau darpariaeth berthnasol; ac
(g) os caiff ei gwneud o fewn chwe mis i ddyddiad yr ymddygiad y gwneir cwyn amdano, oni bai bod y Comisiynydd wedi’i fodloni bod rheswm da am yr oedi.

Meysydd nad yw’r Comisiynydd Safonau yn ymwneud â hwy:

  • Yn gyffredinol, nid yw gweithredoedd Llywodraeth Cymru a’r Gweinidogion sy’n gwneud gwaith Llywodraeth Cymru yn dod o fewn cylch gwaith y Comisiynydd Safonau. Dylid cyfeirio unrhyw gŵyn o’r fath i Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Yn ei hanfod, mater i etholwyr drwy’r blwch pleidleisio yw’r materion sy’n ymwneud â pherfformiad Aelodau o’r Senedd yn rhinwedd eu swyddi.

Sut i gwyno. Cewch ragor o gyngor a gwybodaeth gan Swyddfa’r Comisiynydd yn y cyfeiriad uchod neu drwy ffonio 0300 200 6532.