Cynnal enw da, gwarchod safonau, mynd i’r afael â phryderon

Ystadegau Cwynion 1 Hydref – 31 Rhagfyr 2021

Cwynion a ddygwyd ymlaen o 2020-21

Mae’r wyth cwyn a oedd yn weddill o’r cyfnod 2020-21, oherwydd y bu’n rhaid imi ohirio fy ystyriaeth er mwyn caniatáu i achosion troseddol ddilyn eu cwrs, bellach wedi cael eu cwblhau a’u trosglwyddo i’r Pwyllgor i’w hystyried.

Cwynion newydd

Mae’r tablau isod yn cynnwys gwybodaeth am gwynion a ddaeth i law yn chwarter cyntaf, ail chwarter a thrydydd chwarter 2020-21.[1]

Tabl 1: Cwynion a ddaeth i law, ffynhonnell a derbynioldeb

Ch1 Ch2 Ch3 Ch4 Cyfanswm
Cyflwynwyd 7 5 11
% gan y cyhoedd 85% 100% 82%
% gan Aelod 0% 0% 0%
% gan Glerc y Senedd 15% 0% 18%
% nad oeddent yn dderbyniadwy 85% 100% 73%
% derbynioldeb heb ei benderfynu erbyn diwedd y cyfnod 0% 60% 27%

 

Tabl 2: Rhesymau dros annerbynioldeb

Ch1 Ch2     Ch3 Ch4 Cyfanswm
dygwyd ymlaen   dygwyd ymlaen  
1 Ddim yn ysgrifenedig  (maen prawf i) 0 0 0 0
2 Ddim yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelod a nodwyd (meini prawf ii a iv) 0 0 0 0
3 Cwyn neu achwynydd anhysbys heb fanylion digonol (maen prawf iii) 0 0 0 0
4 Ddim o fewn yr amser a ganiateir (maen prawf v) 0 0 0 0
5 Tystiolaeth annigonol i gyfiawnhau ymchwiliad pellach (maen prawf vi) 6 2 2* 8

*Roedd tair cwyn a ddygwyd ymlaen o Ch2 yn aros am benderfyniad derbynioldeb. Roedd un yn dderbyniadwy, a dwy yn annerbyniadwy.

Tabl 3: Esboniad pellach o gwynion y canfuwyd eu bod yn annerbyniadwy oherwydd sylwedd annigonol i gyfiawnhau ymchwiliad pellach (maen prawf vi)

Ch1 Ch2 Ch3 Ch4 Cyfanswm
5a Tystiolaeth annigonol 3 2 3
5b Safonau gwasanaeth 2 0 3
5c Islaw’r trothwy cofrestru 0 0 0
5d Ynglŷn ag ymddygiad Gweinidog 1 0 1
5e Ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr 0 0 1
5f Mynegiad barn 0 0 0
5g Arall 0 0 0

 

Tabl 4: cwynion yn ôl pwnc

Ch1 Ch2 Ch3 Ch4 Cyfanswm
Ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol 0 0 0
Camddefnyddio adnoddau 1 0 3
Safonau gwasanaeth 2 4 3
Methu â chofrestru/datgan buddiant 1 1 2
Y tu hwnt i gylch gwaith 1 0 2
Ymddygiad arall 2 0 1
Cyfanswm 7 5 11    

 

[1] Am esboniad o’r tablau, gweler Adran 3 o Adroddiad Blynyddol 2020-21.