Bod yn dyst

Cyhoeddwyd 03/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2025   |   Amser darllen munudau

Being a witness

Mae'r dudalen hon yn amlinellu eich dyletswyddau fel tyst ac yn ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych amdanynt. Tyst yw unrhyw un y gofynnaf iddo ddarparu gwybodaeth am gŵyn yr wyf yn ymchwilio iddi, gan gynnwys y person a wnaeth y gŵyn a’r Aelod y cwynwyd amdano.

Eich dyletswydd i fod yn onest ac yn uniongyrchol

Fel tyst mae dyletswydd arnoch i ateb fy nghwestiynau yn onest. Dim ond ar yr hyn yr ydych wedi'i weld, ei glywed neu ei wneud y dylech ddibynnu ac nid ar yr hyn y mae pobl eraill wedi'i ddweud wrthych. Os nad ydych yn gwybod neu os na allwch gofio'r ateb i unrhyw beth yr wyf yn ei ofyn ichi, dywedwch hynny. Byddai rhoi ateb ffug neu gamarweiniol i mi yn fwriadol yn fater difrifol ac mewn rhai amgylchiadau gallai fod yn gyfystyr â throsedd anudon.

Eich dyletswydd o ran cyfrinachedd

Mae'r broses ymchwilio i unrhyw gŵyn yn gyfrinachol. Ni ddylech drafod unrhyw beth sy'n ymwneud â'r gŵyn ag unrhyw un a allai fod yn dyst, na rhoi dim gwybodaeth amdani i'r cyfryngau. Gallai torri dyletswydd cyfrinachedd fod yn niweidiol i unrhyw ymchwiliad, a byddai'n cael ei drin fel mater difrifol.

Pryd y byddaf yn gofyn i chi fod yn dyst?

Dim ond os credaf fod gennych wybodaeth sy'n berthnasol i'r gŵyn yr wyf yn ymchwilio iddi y byddaf yn gofyn ichi fod yn dyst.

Sut y byddwch yn rhoi eich tystiolaeth?

Os wyf am i chi fod yn dyst, byddaf fel arfer yn cysylltu â chi drwy e-bost. Efallai y byddaf yn gofyn ichi roi eich tystiolaeth mewn nifer o ffyrdd. Gallaf -

  • anfon holiadur atoch a gofyn ichi ei lenwi a'i ddychwelyd ataf
  • gofyn i chi gwrdd â mi yn anffurfiol, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy Microsoft Teams
  • anfon Hysbysiad i Fod yn Bresennol at y Diben o Roi Tystiolaeth atoch, yn gofyn am eich presenoldeb naill ai wyneb yn wyneb neu drwy Microsoft Teams. 

Pa ddefnydd a wneir o'm tystiolaeth?

Byddaf yn ystyried eich tystiolaeth, ynghyd â’r holl dystiolaeth arall, wrth ffurfio fy marn ynghylch a oes unrhyw un o’r Rheolau Ymddygiad wedi’u torri ai peidio.

Pwy fydd yn gweld fy nhystiolaeth?

Bydd eich tystiolaeth yn rhan o'm hadroddiad ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Caiff fy adroddiad ei gynnwys yn adroddiad y Pwyllgor i’r Senedd. Bydd yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys fy adroddiad a’ch tystiolaeth, yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.

A fydd fy enw yn dod yn gyhoeddus?

Fel arfer cyhoeddir enwau'r tystion. Dywedwch wrthyf os ydych yn meddwl bod rheswm da pam na ddylai eich enw gael ei wneud yn gyhoeddus. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd yn bosibl osgoi cyhoeddi eich enw.

Pa fath o gefnogaeth sydd ar gael i mi?

Rwy’n sylweddoli y gall rhoi tystiolaeth fod yn ofidus weithiau. P'un a ydych yn cael eich cyfweld yn anffurfiol neu'n ffurfiol, bydd gennych hawl i gael rhywun gyda chi. Gallwch ddewis unrhyw un, ar yr amod nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â'r mater yr ymchwilir iddo.

Ceir manylion am rai o'r ffynonellau cefnogaeth sydd ar gael yn Eich Cefnogi Chi. Hefyd, mewn amgylchiadau priodol byddaf yn cynnig cymorth annibynnol i chi oddi wrth Cymorth i Ddioddefwyr. Os credwch fod angen y gefnogaeth annibynnol honno arnoch, dywedwch wrthyf.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fod yn dyst, cysylltwch â ni.