DOD I WYBOD RHAGOR AM DOUGLAS BAIN, Y COMISIYNYDD
Yn dilyn cystadleuaeth agored, dechreuais yn fy swydd fel Comisiynydd Safonau y Senedd ar 1 Ebrill 2021.
Galwyd fi i Far yr Alban ym 1974. Ar ôl cyfnod yn gweithio mewn practis preifat, bûm yn gwasanaethu yn Swyddfa Cyfreithiwr Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ac yna fel Dirprwy Brocuradur Ffisgal yn arbenigo’n ddiweddarach mewn ymchwilio i dwyll a llygredd difrifol a chymhleth.
Ym 1988 symudais i Ogledd Iwerddon lle roeddwn yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yna'n Gyfarwyddwr yr Uned Cyllid Terfysgaeth ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Uned Gwasanaethau Troseddau Ariannol Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon. Rhwng 2000 a 2006 fi oedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau yng Ngwasanaeth Carchardai Gogledd Iwerddon. Yn dilyn ymddeol o'r gwasanaeth sifil, bûm yn Brif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon rhwng 2006 a 2010. Rhwng 2010 a 2013 roeddwn yn un o Gomisiynwyr Comisiwn Gorymdeithiau Gogledd Iwerddon. Fi oedd Comisiynydd Safonau cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon a daliais y swydd honno rhwng 2012 a 2017. Rhwng 2010 a 2017 bûm yn dal nifer o benodiadau cyhoeddus eraill gan gynnwys Aelod o’r Tribiwnlys Apelau Tystysgrif Diogelwch Cenedlaethol (2012 -2017), Person Penodedig ar gyfer pob un o’r tair awdurdodaeth yn y DU o dan Ddeddf Elw Troseddau (2012 - 2017) ac yn Asesydd Annibynnol ar gyfer Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (2018 – 2021).
Yn 2018, fe’m penodwyd yn Gomisiynydd Safonau Gweithredol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymdrin â chwyn yn erbyn Aelod yr oedd y Comisiynydd ar y pryd wedi ymwrthod ohono. Ym mis Tachwedd 2019, yn dilyn ymddiswyddiad Syr Roderick Evans, cefais fy mhenodi eto yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro, y tro hwn i ymdrin â holl swyddogaethau’r swydd honno. Fe wnes i barhau yn y rôl honno tan fy mhenodi’n Gomisiynydd ym mis Ebrill 2021.
Cefais CBE yn 2006 am fy ngwasanaeth i Wasanaeth Carchardai Gogledd Iwerddon. Bûm yn gwasanaethu yn y Fyddin Diriogaethol am 21 mlynedd ac rwy'n dal yr Arwisgiad Tiriogaethol gyda bar.
Rwy'n byw gyda fy ngwraig yn County Down ac nid oes gennyf unrhyw fuddiannau busnes na buddiannau ariannol yng Nghymru.