Cwyno

Cyhoeddwyd 16/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2025   |   Amser darllen munudau

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych pa gwynion y gallaf ymchwilio iddynt, sut i wneud eich cwyn a sut y byddaf yn ymdrin â hi.

Beth alla i ymchwilio iddo?

Ni allaf ymchwilio i’ch cwyn oni bai ei bod :

  • yn cael ei gwneud yn ysgrifenedig;
  • yn rhoi eich enw;
  • yn rhoi eich cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost (oni bai eich bod yn Aelod);
  • yn ymwneud ag ymddygiad honedig Aelod a enwir;
  • yn datgan gweithredoedd neu anweithiau'r Aelod hwnnw yr ydych yn dweud eu bod wedi torri amodau un o'r Rheolau Ymddygiad;
  • mewn perthynas â phob gweithred neu anwaith y cwynir yn eu cylch, eu bod yn cael eu hategu gan dystiolaeth ddigonol i fy modloni (i) y gall yr ymddygiad y cwynir yn ei gylch fod wedi digwydd ac (ii) os caiff ei brofi, y gallai fod yn gyfystyr â thorri un o’r Rheolau hyn; ac
  • yn cael ei gwneud o fewn chwe mis i ddyddiad yr ymddygiad y cwynir yn ei gylch, oni bai fy mod yn fodlon bod achos da dros yr oedi.

 

Beth na allaf ymchwilio iddo?

Ni allaf ymchwilio i’ch cwyn os yw’n ymwneud â:

  • safon y gwasanaeth a’r canlyniadau a gafwyd gan Aelod, er enghraifft, yn honni nad yw Aelod wedi ymateb i ohebiaeth, neu nad yw wedi gwneud yr hyn a ofynnwyd gennych. Yr ateb ar gyfer gwasanaeth gwael yw drwy'r blwch pleidleisio;
  • unrhyw beth a ddigwyddodd yn ystod Cyfarfod Llawn neu sesiwn lawn o’r Senedd neu yn un o’i Phwyllgorau. Dylid anfon cwynion am ymddygiad yn y Cyfarfod Llawn drwy e-bost at llywydd@senedd.cymru neu eu hanfon drwy'r post at y Llywydd, Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN. Dylid anfon cwynion am ymddygiad mewn Pwyllgor at Glerc y Pwyllgor priodol y mae ei gyfeiriad e-bost a’i gyfeiriad post ar gael yn https://senedd.wales/senedd-business/committees/
  • ymddygiad Aelod tra bydd yn gweithredu’n gyfan gwbl fel un o Weinidogion Llywodraeth Cymru – dylid anfon cwynion am ymddygiad o’r fath drwy e-bost at Prif Weinidog@llyw.cymru neu ei anfon drwy'r post at y Prif Weinidog, 5ed Llawr Tŷ Hywel, Bae Caerdydd CF99 1SN
  • Llywodraeth Cymru – dylid anfon cwynion am Lywodraeth Cymru neu ei pholisïau drwy e-bost at cwynion@llyw.cymru neu eu hanfon drwy'r post at y Tîm Cyngor ar Gwynion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 

 Beth yw'r ffordd orau o gyflwyno'ch cwyn?

Rhaid i'ch cwyn fod yn ysgrifenedig a gall fod yn Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall. Os yw'n anodd i chi wneud eich cwyn yn ysgrifenedig, cysylltwch â'm swyddfa i drafod trefniadau eraill.

Y ffordd orau o gyflwyno'ch cwyn yw defnyddio'r Ffurflen Gwynion. Nid oes yn rhaid i chi ei defnyddio, ond bydd yn helpu i sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

 

Beth fydd yn digwydd pan dderbyniaf eich cwyn?

Ymdrinnir â'r gŵyn honno yn unol â'r Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd. Bydd pob data personol a ddarparwyd gennych yn cael ei brosesu yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y Comisiynydd.

Byddaf yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ac yn anfon copi ohoni (gan ddileu eich cyfeiriad) ac unrhyw ddogfennau ategol a ddarparwyd gennych, at yr Aelod yr ydych yn cwyno amdano.

Fy nhasg gyntaf fydd penderfynu a yw eich cwyn yn un y gallaf ymchwilio iddi. Os nad ydyw, dywedaf wrthych pam na allaf. Os gallaf ymchwilio i’ch cwyn, byddaf yn dweud wrthych chi a’r Aelod fy mod wedi dechrau ar fy ymchwiliad iddi.

Yn ystod fy ymchwiliad, mae’n debygol y byddaf yn eich cyfweld chi, yr Aelod ac unrhyw dystion y nodwyd eu bod yn debygol o fod â thystiolaeth berthnasol. Byddaf hefyd yn cael unrhyw ddogfennau perthnasol.

Ar ôl hynny, byddaf yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn penderfynu pa ffeithiau yr wyf wedi'u canfod sydd wedi’u sefydlu. Byddaf yn anfon copi o’r ffeithiau hyn atoch chi ac at yr Aelod ac yn rhoi amser ichi awgrymu cywiriadau iddynt.

Unwaith y byddaf wedi ymdrin ag unrhyw gywiriadau a awgrymir, byddaf yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn rhoi fy marn ynghylch a oes unrhyw rai o'r Rheolau Ymddygiad wedi eu torri. Bydd y Pwyllgor yn penderfynu a fu unrhyw doriad ac, os bu, bydd yn argymell i’r Senedd pa sancsiwn, os o gwbl, y dylid ei osod. Mater i’r Senedd yw’r penderfyniad terfynol.

 

Rhagor o wybodaeth

Ni allaf roi cyngor i chi ynghylch a ddylech wneud cwyn ai peidio, ond os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y broses gwyno, am waith fy swyddfa neu am drefniadau amgen ar gyfer cyflwyno’ch cwyn cysylltwch â mi.