Cyflwyno cwyn

Cyhoeddwyd 11/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2025   |   Amser darllen munudau

I wneud cwyn am Aelod o’r Senedd, rhaid iddi gael ei gwneud yn ysgrifenedig a chynnwys gwybodaeth benodol fel yr amlinellir isod. Y ffordd orau a hawsaf o gyflwyno cwyn yw trwy lenwi'r ffurflen gwyno ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein am unrhyw reswm, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch at y Comisiynydd, gan ddarparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani ym mhob adran isod.  Dylid anfon e-byst at comisiynydd.safonau@senedd.cymru neu anfon llythyrau at y Comisiynydd Safonau, Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN