Eich Cefnogi Chi

Cyhoeddwyd 16/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2025   |   Amser darllen munudau

Supporting You

Y gefnogaeth sydd ar gael i chi

Gall cymryd rhan yn y broses gwyno fod yn emosiynol heriol ac mae gofyn am ddewrder. Darperir yr awgrymiadau a ganlyn fel canllaw i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi os byddwch yn teimlo eich bod yn y sefyllfa hon.

Os credwch y byddai cael cefnogaeth o gymorth i chi, ystyriwch gysylltu ag un o’r canlynol:

Ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â'r broses gwyno

  • eich teulu, eich ffrindiau neu gydweithwyr
  • eich adran Adnoddau Dynol
  • eich undeb llafur
  • eich Meddyg Teulu
  • Y Samariaid: 116 123
  • Llinell Gymorth Aflonyddu Rhywiol (mewn partneriaeth â Survivor's Trust) 08088 101818.

Ar gyfer Staff Comisiwn y Senedd

  • yr holl ffynonellau uchod
  • Nyrs Iechyd Galwedigaethol y Senedd (ar gael drwy Adran Adnoddau Dynol y Senedd)
  • Y Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar 0800 174 319

Ar gyfer Aelodau a’u staff cymorth, gan gynnwys staff y pleidiau y telir amdanynt o gronfeydd y Senedd

  • yr holl ffynonellau uchod
  • eich plaid wleidyddol
  • Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau (MBS) 0300 200 6237

Hefyd, mewn amgylchiadau priodol byddaf yn cynnig cefnogaeth annibynnol i chi oddi wrth Cymorth i Ddioddefwyr. Os credwch fod angen y gefnogaeth annibynnol honno arnoch, dywedwch wrthyf.