Mae'r rheolau (a elwir yn 'ddarpariaethau perthnasol' yn Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009) y mae’n rhaid i’r Aelodau eu dilyn wedi’u nodi yn y dogfennau a ganlyn -
- Y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd sy’n nodi 24 o Reolau y mae'n rhaid i Aelodau eu dilyn bob amser. Ceir rhagor o wybodaeth amdano yn y Canllawiau ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd; https://senedd.cymru/media/5d1hz2km/code_of_conduct_guidance-cy-template.pdfCanllawiau ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd
- Rheolau Sefydlog Senedd Cymru. Mae Rheolau Sefydlog 2 – 5 yn ymdrin â’r gwaharddiad ar lobïo am wobrwyon, a’r buddiannau ariannol a buddiannau eraill y mae’n ofynnol i’r Aelodau eu cofrestru. Mae Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.8A yn ymdrin â’r gofyniad i Aelodau ddatgan buddiannau perthnasol cyn cymryd rhan yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn neu bwyllgorau;
- Mae’r Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Senedd yn ymdrin â sut y gall Aelodau ddefnyddio’r arian, y staff a’r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer gan Gomisiwn y Senedd. Mae torri unrhyw un o'r Rheolau hyn yn torri Rheol 8 o'r Cod Ymddygiad;
- Mae Polisi Urddas a Pharch Senedd Cymru yn berthnasol nid yn unig i’r Aelodau ond i bawb sy’n gweithio yn y Senedd. Mae'n ymdrin ag ymddygiad amhriodol fel bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud ag ymddygiad amhriodol o'r fath gan yr Aelodau wedi'u hailadrodd yn Rheol 4 a Rheol 6 o'r Cod Ymddygiad.
- Cod ar Wahanol Rolau a Chyfrifoldebau Aelodau Etholaeth ac Aelodau Rhanbarthol Mae’r ddogfen hon yn nodi, ymhlith pethau eraill, sut y dylai Aelodau Etholaethol ac Aelodau Rhanbarthol ddisgrifio eu hunain a sut y dylent weithredu wrth ymdrin ag etholwyr yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau.