Safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw assemblywales.org, cynulliadcymru.org a senedd.tv a gyhoeddir ac a reolir gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘Ni’. Trwy gyrchu ein gwefan, rydych chi, y defnyddiwr ('Chi'), yn derbyn ein Telerau ac Amodau.
Mae gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i wefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal i chi eu defnyddio a'u gweld. Pan ddefnyddiwch y wefan hon, mae'n golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sydd mewn grym o'r dyddiad cyntaf y caiff ei defnyddio.
Datganiad o hawlfraint
Mae'r rhan fwyaf o'r deunydd a geir ar y wefan hon wedi'i wneud o dan gyfarwyddyd neu reolaeth Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac felly mae’n destun hawlfraint y Comisiwn. Gellir atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Comisiwn yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb orfod cael caniatâd penodol. Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu'r deunydd yn gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o’r eitemau ar y wefan hon ac sydd o dan hawlfraint Seneddol ei hailgyhoeddi neu ei chopïo i wefannau eraill, mae’n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint. Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn fodlon i ddefnyddwyr greu lincs hyperdestun i'r wefan hon.
Mae rhywfaint o'r deunydd sydd ar y wefan hon yn atgynhyrchu deunydd a gyflwynwyd i'r Cynulliad gan drydydd partïon mewn perthynas â busnes y Cynulliad ac mae'n ddarostyngedig i hawlfraint y trydydd partïon hynny. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Comisiwn yn ymestyn i ddeunydd hawlfraint trydydd parti. Cyn atgynhyrchu’r deunydd hawlfraint trydydd parti rhaid i chi fod yn fodlon bod gennych hawl i wneud hynny heb dorri hawlfraint. Pan nad oes gennych hawl i atgynhyrchu deunydd o'r fath, rhaid i chi gael awdurdod y deiliad/deiliaid hawlfraint dan sylw cyn atgynhyrchu'r deunydd.
Logos
Mae enwau, delweddau a logos Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodau perchnogol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru a/neu logos trydydd partïon eraill a geir drwy'r wefan hon heb ganiatâd gan berchennog yr hawlfraint ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r ffurflen ymholiad cyffredinol, drwy ffonio’r llinell wybodaeth ar 0845 010 5500, neu drwy ysgrifennu at:
Cyfarwyddwr Cyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Dywedwch wrthym sut a pham rydych am ddefnyddio'n logos Nodwch eich manylion cyswllt, sef enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
Creu hyperlincs
Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu lincs uniongyrchol i dudalennau ar y wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu lincs uniongyrchol i'r wybodaeth sydd ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho mewn fframiau ar eich gwefan. Dylai tudalennau gwe Cynulliad Cenedlaethol Cymru lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho mewn fframiau ar eich gwefan.
Os ydych am gynnwys tudalennau gwe Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn gwefan porth, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r ffurflen ymholiad cyffredinol. Nodwch eich manylion cyswllt, sef enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost a disgrifiad o'ch gwefan porth.
Lincs o'r wefan hon
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir lincs iddynt. Nid yw safleoedd o reidrwydd wedi'u cymeradwyo er eu bod wedi'u rhestru. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y lincs hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau y ceir lincs iddynt.
Gwarchod rhag feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cyfnod o’r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn syniad da cynnal rhaglen gwrth-feirysau ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o’r Rhyngrwyd. Ni allwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth na niwed i'ch data, eich systemau cyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a gafwyd oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ymwadiad
Darperir gwefan, gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau Senedd Cymru (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) 'fel y maent' heb fod unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth yn cael ei wneud a heb warant o unrhyw fath boed yn benodol neu'n oblygedig, gan gynnwys gwarantau goblygedig o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol, peidio â thresmasu, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn ddi-dor neu heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y wefan hon neu'r gweinyddwr yn sicrhau eu bod ar gael heb feirysau nac yn cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol, mewn unrhyw achos am unrhyw golled neu ddifrod, gan gynnwys, heb gyfyngiadau, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl a ddaw o ddefnyddio neu fethu â defnyddio data, nac elw sy'n deillio o'r defnydd o wefannau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu sy'n gysylltiedig â hynny.
Caiff yr Amodau a Thelerau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.