Cynnal enw da, gwarchod safonau, mynd i’r afael â phryderon

Y Comisiynydd

Mae’r Comisiynydd Safonau y Senedd yn berson annibynnol sy’n rhoi cyngor a chymorth diduedd ar unrhyw fater o egwyddor sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau o’r Senedd ac mae’n cynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion sy’n honni bod Aelodau o’r Senedd wedi torri Codau, Protocolau neu benderfyniadau’r Senedd.


Yn dilyn cystadleuaeth agored, cafodd Douglas Bain ei benodi’n Gomisiynydd Safonau’r Senedd ar 1 Ebrill 2021.

Cafodd Douglas ei alw i Far yr Alban ym 1974. Ar ôl cyfnod mewn practis preifat, bu’n gwasanaethu fel Dirprwy Brocuradur Ffisgal yn arbenigo ym maes ymchwilio i dwyll a llygredd difrifol a chymhleth.

Symudodd i Ogledd Iwerddon ym 1988, lle cafodd ei benodi i nifer o swyddi uwch ym maes cyfiawnder troseddol. Ar ôl iddo ymddeol o’r gwasanaeth sifil, Douglas oedd Prif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon rhwng 2006 a 2010. Rhwng 2010 a 2013, roedd yn aelod o Gomisiwn Gorymdeithiau Gogledd Iwerddon. Rhwng 2020 a 2017, roedd yn Gomisiynydd Safonau cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon.. Yn yr un cyfnod, Douglas oedd y Person Penodedig ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002.

Yn 2018, cafodd Douglas ei benodi’n Gomisiynydd Dros Dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymdrin â chwynion ynghylch Aelod penodol. Ym mis Tachwedd 2019, ar ôl i Syr Roderick Evans ymddiswyddo fel Comisiynydd Safonau, cafodd Douglas ei benodi eto yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro. Arhosodd yn y rôl honno hyd nes iddo gael ei benodi’n Gomisiynydd yn barhaol.

Cafodd Douglas ei benodi’n CBE yn 2010 am ei waith dros Wasanaeth Carchardai Gogledd Iwerddon. Mae ganddo’r Fedal Diriogaethol â bar. Mae’n byw gyda’i wraig yn Swydd Down.

Prif swyddogaethau’r Comisiynydd yw:

  • derbyn unrhyw gŵyn bod ymddygiad Aelod o’r Senedd, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol;
  • ymchwilio i unrhyw gŵyn o’r fath yn unol â’r gweithdrefnau a sefydlwyd
  • cyflwyno adroddiad i’r Senedd ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o’r fath; a
  • cynghori Aelodau o’r Senedd ac aelodau’r cyhoedd am y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion ac ymchwilio iddynt.

Yn ogystal â’r uchod, gall y Comisiynydd roi cyngor i’r Senedd:

  • ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy’n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad Aelodau o’r Senedd yn gyffredinol;
  • ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod Aelodau o’r Senedd wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol; ac
  • ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd.

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad 2009

Buddiannau’r Comisiynydd

Er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, mae’r Comisiynydd wedi penderfynu datgelu ei fuddiannau o dan yr un categorïau, yn fras, ag sy’n berthnasol i’r Aelodau. Mae’r wybodaeth yn adlewyrchu’r sefyllfa ar 1 Ebrill 2021 a bydd yn cael ei diweddaru pryd bynnag y bydd unrhyw newid sylweddol. – Buddiannau’r Comisiynydd