Cynnal enw da, gwarchod safonau, mynd i’r afael â phryderon

Ystadegau Cwynion 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022

Cwynion a ddygwyd ymlaen o 2021-22

Cafodd dwy gŵyn eu cario drosodd o 2021-22.  Roedd un o’r cwynion hynny’n dderbyniadwy a chyflwynwyd adroddiad wedyn i’r Pwyllgor Safonau.  Nid oedd y gŵyn arall yn dderbyniadwy gan ei bod yn ymwneud â gweithredoedd un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Cwynion newydd

Mae’r tablau canlynol yn rhoi gwybodaeth am gwynion a ddaeth i law yn ail chwarter 2022-23.[1]

Tabl 1: Cwynion a ddaeth i law, ffynhonnell a derbynioldeb

Ch1 Ch2 Ch3 Ch4 Cyfanswm
Daeth i law 11 23
% gan y cyhoedd 91% 17%
% gan Aelod 0% 0%
% gan Glerc y Senedd 9% 83%
% nad oeddent yn dderbyniadwy 91% 9%
% derbynioldeb heb ei benderfynu erbyn diwedd y cyfnod 0% 4%

 

Tabl 2: Rhesymau dros annerbynioldeb

Ch1 Ch2     Ch3 Ch4 Cyfanswm
dygwyd ymlaen   dygwyd ymlaen   dygwyd ymlaen  
1 Ddim yn ysgrifenedig (maen prawf i) 0 0 0
2 Ddim yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelod a nodwyd (meini prawf ii a iv) 0 0 0
3 Cwyn neu achwynydd anhysbys heb fanylion digonol (maen prawf iii) 0 0 0
4 Ddim o fewn yr amser a ganiateir (maen prawf v) 0 0 0
5 Tystiolaeth annigonol i gyfiawnhau ymchwiliad pellach (maen prawf vi) 9* 0 2

*O’r 23 o gwynion a dderbyniwyd yn Ch2, roedd 20 yn dderbyniol. Ymdriniwyd â 19 o’r cwynion hyn drwy’r weithdrefn gywiro a amlinellir ym mharagraff 7.6 o’r Weithdrefn Gwyno.

Tabl 3: Esboniad pellach ar gwynion y canfuwyd eu bod yn annerbyniadwy oherwydd sylwedd annigonol i gyfiawnhau ymchwiliad pellach (maen prawf vi)

Ch1 Ch2 Ch3 Ch4 Cyfanswm
5a Tystiolaeth annigonol 2 1
5b Safonau gwasanaeth 2 0
5c Islaw’r trothwy cofrestru 0 0
5d Ynglŷn ag ymddygiad Gweinidog 5 1
5e Ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr 0 0
5f Mynegiad barn 0 0
5g Arall 0 0

 

Tabl 4: Cwynion yn ôl pwnc

Ch1 Ch2 Ch3 Ch4 Cyfanswm
Ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol 2 1
Camddefnyddio adnoddau 1 1
Safonau gwasanaeth 2 1
Methu â chofrestru/datgan buddiant 0 18
Y tu hwnt i gylch gwaith 5 1
Ymddygiad arall 1 1
CYFANSWM 11 23      

 

[1] I gael esboniad ar y Tablau, gweler Adran 3 o Adroddiad Blynyddol 2020-21.