Cynnal enw da, gwarchod safonau, mynd i’r afael â phryderon

Cod Ymddygiad

 

Pwrpas y Cod Ymddygiad hwn yw rhoi canllawiau i holl Aelodau o’r Senedd ar  y safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddynt wrth gyflawni’u dyletswyddau i’r Senedd a’u dyletswyddau cyhoeddus, ac i sicrhau bod Aelodau mor agored ac atebol ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y ffordd y mae Aelodau o’r Senedd yn cyflawni’u dyletswyddau i’r Senedd a’u dyletswyddau cyhoeddus.